Marcus Junius Brutus | |
---|---|
Ganwyd | c. 85 CC Unknown |
Bu farw | 23 Hydref 42 CC Philippi |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | athronydd, bardd, gwleidydd hynafol, Rhufeinig |
Swydd | Praetor, quaestor, llywodraethwr Rhufeinig, praetor urbanus, seneddwr Rhufeinig, triumvir monetalis, moneyer |
Plaid Wleidyddol | optimates |
Tad | Marcus Junius Brutus the Elder, Quintus Servilius Caepio |
Mam | Servilia, Hortensia |
Priod | Claudia, Porcia |
Partner | Volumnia Cytheris |
Perthnasau | Calpurnius Bibulus, Decimus Junius Brutus Albinus |
Llinach | Junii Bruti |
Seneddwr Rhufeinig, sy'n fwyaf enwog am ei ran yn llofruddiaeth Iŵl Cesar, oedd Marcus Junius Brutus (85 CC - 42 CC).
Roedd Brutus yn fab i Marcus Junius Brutus yr Hynaf a Servilia Caepionis, a ddaeth yn gariad Cesar yn ddiweddarach. Mabwysiadwyd Brutus gan ei ewythr, Quintus Servilius Caepio. Pan ddatblygodd rhyfel cartref rhwng Pompeius Magnus a Iŵl Cesar, ochrodd gyda Pompeius. Wedi i Gesar ennill buddugoliaeth ym Mrwydr Pharsalus, ysgrifennodd at Gesar i'w gyfiawnhau ei hun, a maddeuodd Cesar iddo. Apwyntiodd Cesar ef yn llywodraethwr Gâl pan aeth ef i Affrica i ddelio a Cato a Metellus Scipio. Yn 45 CC, ysgarodd ei wraig gyntaf i briodi Porcia Catonis, merch Cato.
Erbyn hyn roedd nifer o seneddwyr yn pryderu fod Cesar yn dod yn rhy bwerus, a pherswadiwyd Brutus i ymuno â chynllwyn yn ei erbyn. Llofruddiwyd Cesar ar 15 Mawrth 44 CC. Ymddengys nad oes gwir yn y stori i Gesar ddweud Et tu, Brute? ("Tithau hefyd, Brutus?").
Yn dilyn y llofruddiaeth bu ymgipryd am rym yn Rhufain. Gadawodd Brutus y ddinas a byw ar ynys Creta hyd 42 CC, ond yna casglodd fyddin a gyda Gaius Cassius Longinus ymladdodd Frwydr Philippi yn erbyn byddinoedd Marcus Antonius ac Octavianus. Mewn gwirionedd roedd dwy frwydr, gyda thair wythnos rhyngddynt. Ym Mrwydr Gyntaf Philippi ar 3 Hydref, 42 CC, llwyddodd Brutus i orchfygu byddin Octavianus, ond gorchfygwyd byddin Cassius gan Marcus Antonius. Gan gredu fod Brutus hefyd wedi colli'r dydd, lladdodd Cassius ei hun.
Ymladdwyd Ail Frwydr Philippi ar 23 Hydref, a gorchfygwyd Brutus gan Antonius ac Octavianus. Lladdodd Brutus ei hun, ac wedi clywed y newyddion, lladdodd ei wraig Porcia ei hun hefyd.